Y Pwyllgor Menter a Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 24 Mai 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:01 - 12:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Nick Ramsay (Cadeirydd) Byron Davies Keith Davies Julie James Alun Ffred Jones Eluned Parrott David Rees Ken Skates Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Trina Neilson, Gyrfa Cymru Shirley Rogers, Gyrfa Cymru Iestyn Davies, Federation of Small Business Joshua Miles, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru Peter Sishton, e-skills Mel Welch, Pathways Manager Roberta Hayes, Cyngor Gofal Cymru Jacky Drysdale, Cyngor Gofal Cymru Aled Davies, Sgiliau Ynni a Chyfleustodau (Cymru) Helen White, Sgiliau Ynni a Chyfleustodau (Cymru) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Siân Phipps (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Anne Thomas (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Elis-Thomas; nid oedd dirprwyon.
2. Ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru - Sesiwn dystiolaeth
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Trina Neilson a Shirley Rogers o Gyrfa Cymru i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Gyrfa Cymru i ddarparu ffigur ynghylch faint o Brentisiaethau y maent wedi’u hysbysebu dros y blynyddoedd ac o fewn pa faes.
Cytunodd Gyrfa Cymru i ddarparu y nifer o leoliadau Prentisiaethau yng Nghymru fel canran o’r swyddi gwag y rhoddwyd gwybod iddynt amdanynt.
Cytunodd Gyrfa Cymru i ddarparu ystadegau ynghylch i ble mae pobl ifanc 16, 17 ac 18 oed yn mynd iddynt yn ôl sir yng Nghymru.
3. Ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru - Sesiwn dystiolaeth
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Iestyn Davies a Joshua Miles o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd y Ffederasiwn Busnesau Bach i ddarparu unrhyw ffigurau i’r Pwyllgor am gyfran y Prentisiaid sy’n mynd ymlaen i sicrhau gwaith llawn-amser ar ôl cwblhau eu prentisiaethau.
4. Ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru - Sesiwn dystiolaeth
Croesawodd y Cadeirydd Peter Sishton a Mel Welch o e-skills UK; Roberta Hayes a Jacky Drysdale o Gyngor Gofal Cymru; ac Aled Davies a Helen White o Sgiliau Ynni a Chyfleustodau (Cymru) i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd e-skills i ddarparu gwybodaeth am nifer y cwmnïau sy’n noddi prentisiaethau lefel uchel (ee lefel 3).
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.